Yr Her Bumpunt DIY

Meddyliwch Amdano

Cam Un: Meddyliwch Amdano!

 

Y cam cyntaf yw Meddyliwch Amdano!

Bydd y plant yn defnyddio'r llyfr gwaith i ysgrifennu neu dynnu llun o gynifer o syniadau y gallant feddwl amdanynt ar gyfer busnes y gallent ei ddechrau gyda £5 yn unig. Yna, byddant yn creu enw ar gyfer eu busnes ac yn dylunio logo.

Rhowch amser i'r plant feddwl am eu syniad busnes. Gofynnwch iddynt feddwl am fusnesau maen nhw eisoes yn eu hoffi - sut bydden nhw'n eu gwella? Fe allen nhw ddechrau busnes gan ddefnyddio eu sgiliau a'u hobïau - ydyn nhw'n mwynhau paentio? Fe allen nhw werthu eu gwaith celf! Ydyn nhw'n hoffi anifeiliaid anwes? Fe allen nhw ddechrau busnes gwarchod anifeiliaid anwes! A allan nhw feddwl am ffordd o gael effaith yn y gymuned leol neu ehangach a helpu pobl sydd mewn angen?

Pan fydd ganddynt syniad ar gyfer busnes, bydd angen iddynt greu enw ar gyfer y busnes a dylunio logo unigryw sy'n dal y llygad sy'n dangos yr hyn y mae'r busnes yn ei gynnig, gan ddatblygu eu sgiliau creadigrwydd.

 

Yr hyn y bydd eich plant yn ei wneud

  • Penderfynu ar gynnyrch neu wasanaeth ar gyfer eu busnes
  • Meddwl am enw busnes
  • Dylunio logo

 

Adnoddau ar gyfer Meddyliwch Amdano!