Yr Her Bumpunt DIY

Cyflwyniad i'r Her Bumpunt DIY

 

Mae'r Her Bumpunt DIY yn ffordd ddifyr i blant ddychmygu pa fusnes y gallent ei greu gyda phapur £5 damcaniaethol mewn pedwar cam, boed hynny gartref neu yn yr ysgol.

Yn ystod y prosiect, bydd y plant yn defnyddio'r llyfr gwaith i gwblhau gweithgareddau fel creu enw busnes a logo, cynnal ymchwil y farchnad, cynllunio eu cynnyrch/gwasanaeth, ac yn gorffen trwy ysgrifennu a rhoi cyflwyniad gwerthu i rywun yn eu cartref. Mae'r prosiect wedi cael ei ddylunio i'w gynnal heb lawer o oruchwyliaeth ac rydym wedi darparu'r holl adnoddau y mae arnoch eu hangen er mwyn i'ch plant gymryd rhan.

Mae'r Her Bumpunt DIY yn wahanol i'r Her Bumpunt oherwydd prosiect damcaniaethol ydyw nad yw'n cynnwys trin arian yn ffisegol, ac mae ar gael i'w chyflwyno ar hyd y flwyddyn, yn unol ag amserlen a benderfynir gan yr ysgol neu'r rhiant sy'n cynnal y prosiect. Mae hyn yn caniatáu i blant o wahanol alluoedd weithio ar eu cyflymder eu hunain a neilltuo cymaint o amser ag y mae ei angen arnynt i bob cam. Gellir defnyddio'r Her Bumpunt DIY fel prosiect annibynnol neu fel ffordd i blant ysgogi eu syniadau busnes, fel y byddant yn barod ar gyfer yr Her Bumpunt.

Gall rhieni sy'n goruchwylio neu'n cyflwyno'r Her Bumpunt DIY edrych ar yr Awgrymiadau Da i Rieni ar gyfer sut i gynnal diddordeb eu plant a sicrhau eu bod yn cael hwyl drwy gydol y prosiect.

 

Adnoddau ar gyfer Cyflwyniad